top of page

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Amseroedd sesiynau a ffi mynychu  

Gwybodaeth Sesiwn

​​

Gwybodaeth am y Sesiwn Cynhelir sesiynau yn ystod y tymor, o ddydd Llun i ddydd Gwener.  ​​

 

Rhestrir amseroedd a phrisiau'r sesiynau isod ac rydym yn anelu at gynnig ateb hyblyg gan ein bod yn deall bod anghenion pob teulu yn wahanol. ​ Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau brecwast a byrbryd iach i bob plentyn ym mhob sesiwn fore a phrynhawn, ond bydd angen anfon pecyn cinio os ydynt yn mynychu Clwb Cinio. ​

 

Gofal Amlwmp

Mae'r Cylch yn darparu gofal amlwmp o feithrinfa Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd drwy gydol yr wythnos, ar gyfer sesiynau bore a phrynhawn. ​

 

Cynnig Gofal

Plant i Gymru Gall rhieni a gwarcheidwaid wneud cais am ofal plant ac addysg gynnar a ariennir am hyd at 30 awr yr wythnos. Mae plant yn gymwys o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Rydym yn hapus i helpu a siarad trwy'r broses os oes angen cefnogaeth arnoch.

​

Ffioedd​​​

​

Screenshot 2025-05-27 180534.png

Cofrestru

​​

 

Os hoffech chi gofrestru eich plentyn ar gyfer lle yng Nghylch Meithrin Yr Eglwys Newydd, e-bostiwch committeecylchyreglwysnewydd@gmail.com gyda’r manylion canlynol:

  • Enw llawn y plentyn

  • Dyddiad geni’r plentyn

  • Cyfeiriad y plentyn

  • Eich perthynas chi â’r plentyn

  • Pa sesiynau sydd eu hangen ar gyfer y plentyn

​

Polisïau
 

Mae Cylch yn aelod o Mudiad Meithrin ac wedi ei yswirio trwy'r Mudiad. Mae gennym nifer o bolisïau penodol yn seiliedig ar drefniadaeth a gweithgareddau. Mae’r polisïau yn cydymffurfio â gofynion statudol pob maes gan gynnwys data, cyflogaeth, amddiffyn plant a iechyd a
diogelwch. Gwelir y polisïau isod neu gellir gofyn i aelod o staff am ragor o wybodaeth.

​

Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd

​

committeecylchyreglwysnewydd@gmail.com

07594915376

Heol Glan-Y-Nant, Yr Eglwys Newydd, CF14 1AP

 

 

 

Rhif Elusen: 1055368 | Charity Number: 1055368
AGC & Mudiad Meithrin Cofrestredig | Registered Mudiad Meithrin & CIW

​

©2025 by Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd. Proudly created with Wix.com

  • Instagram
  • Facebook
bottom of page