

Cwestiynau cyffredinol
Oes rhaid i’m plentyn fod allan o gewynnau?
Nac oes. Rydym yn hapus i newid cewynnau ond gofynnwn i rieni ddarparu cewynnau, wipes ac eli. Rydym hefyd yn barod iawn i gynorthwyo mewn hyfforddiant defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol lle bo angen.
Oes gwisg ffurfiol?
Bydd gwisg ysgol ar gael i'r plant hynny sy'n dechrau yn y Cylch ym mis Medi 2026. Byddwn yn darparu un crys polo pan fyddwch chi'n cofrestru, ac mae opsiwn i brynu mwy o wisg ysgol fel hwdis â sip a fflîs. Gellir casglu ffurflenni archebu o'r Cylch a bydd cyfathrebu ynghylch pryd y gellir gwneud archebion.
Ydych chi’n darparu byrbryd?
Ydyn - darperir byrbryd yn ystod bob sesiwn. Fel arfer caiff y plant ddarn o ffrwyth neu lysieuyn, caws a dŵr/llaeth i’w yfed.
A oes lleiafswm/uchafswm o sesiynau y mae’n rhaid i fy mhlentyn fynychu?
Gall eich plentyn fynychu rhwng 1 a 5 sesiwn yr pythons fel bo’r angen. Rydym yn cynghori bod eich plentyn yn mynychu lleiafswm o ddau sesiwn yr wythnos er mwyn eu hannog i ymgartrefu yn y Cylch.