top of page

Amdanom ni

PHOTO-2026-05-15-09-37-49.jpg
PHOTO-2026-05-15-09-37-51.jpg
PHOTO-2026-05-15-09-37-49 2.jpg

Rydym ni yng Nghylch Meithrin Yr Eglwys Newydd yn eich croesawu chi a’ch plentyn yn gynnes iawn. Rydym am weld eich plentyn yn cael pob cyfle i gymdeithasu a datblygu’n dda gyda ni o’r cychwyn cyntaf hyd nes i’ch plentyn symud ymlaen i’r ysgol gynradd.

Ysgol Feithrin Gymraeg yw Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd ar gyfer plant 2-4 oed, ond mae croeso i bob plentyn yn y cylch dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref. Mae'r gofal ar gael i'r disgyblion sydd yn mynychu meithrin rhan-amser Ysgol Melin Gruffydd a hefyd ar gyfer gofal plant 30 awr. 

Mae’r gweithgareddau strwythuredig yn cynnwys paentio, blociau, lliwio, fideos, jigsos, dawnsio, cerddoriaeth, ioga, tywod, amser stori, dŵr a chwarae dychmygol.

Mae’r Arweinydd yn paratoi cynlluniau gwaith ar gyfer bob hanner tymor . Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar gyfer sicrhau datblygiad plant drwy’r llwybrau datblygu canlynol :

  • perthyn

  • cyfathrebu

  • archwilio

  • datblygiad corfforol

  • lles

Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd

committeecylchyreglwysnewydd@gmail.com

07594915376

Heol Glan-Y-Nant, Yr Eglwys Newydd, CF14 1AP

 

 

 

Rhif Elusen: 1055368 | Charity Number: 1055368
AGC & Mudiad Meithrin Cofrestredig | Registered Mudiad Meithrin & CIW

©2025 by Cylch Meithrin Yr Eglwys Newydd. Proudly created with Wix.com

  • Instagram
  • Facebook
bottom of page